Skip to main content

Eich rhoi chi mewn dwylo diogel

Rydyn ni'n cynnig gwasanaeth cymorth am ddim o ran tai yn ardal Taf ar gyfer pobl 16 oed ac yn hŷn. Does dim ots pa fath o lety rydych chi'n byw ynddo.

This post is also available in: English

Mae’r gwasanaeth yma yn helpu i atal digartrefedd trwy fagu hyder pobl a’u helpu nhw gyda’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i fyw’n annibynnol a rheoli cartref yn llwyddiannus.

Mae modd i ni ddarparu cymorth gyda’r canlynol:

  • Rheoliarian a budd-daliadau
  • Ataldigartrefedd
  • Ymgartrefumewn cartref a gwneud ffrindiau yn y gymdogaeth
  • Trefnuapwyntiadau a manteisio ar wasanaethau defnyddiol eraill
  • Cwblhauffurflenni, darllen post ac ysgrifennu llythyrau pwysig
  • Manteisioar gyfleoedd o ran hamdden, sgiliau a chyflogaeth
  • Cymorthi aros yn annibynnol

Sut mae’n gweithio?

Byddwn ni’n ymweld â’r person yn ei gartref (neu mewn lleoliad wedi’i gytuno arno) i drafod ei anghenion cymorth a chytuno ar unrhyw nodau hoffai’r person eu cyflawni. Dyma gynllun cymorth sydd wedi’i deilwra i’r unigolyn a bydd y cynllun yn cael ei adolygu’n rheolaidd.

Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill i sicrhau bod modd i bobl fanteisio ar y gwasanaethau neu arbenigedd sydd eu hangen arnyn nhw o bosibl.

Sut i fanteisio ar wasanaeth SAFE

Bydd y gwasanaeth yma yn cael ei gynnal gan Trivallis yn ardal Taf.

Os byddech chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, yn cael budd o’r cymorth yma, cysylltwch â’r Garfan Cefnogi Pobl heddiw:

Ffôn: 01443 425473 / 01443 425306

E-bost: cymorthibobl@rhondda-cynon-taf.gov.uk

I gysylltu â charfan SAFE Trivallis, e-bostiwch SAFE@Trivallis.co.uk neu ffonio 03000 030 888

Mae gwasanaeth tebyg ar gael i bobl yn ardaloedd eraill RhCT:

Gwasanaeth Cymorth fel y bo angen Cwm Rhondda wedi’i gynnal gan gymdeithas tai Hafod. E-bostiwch: enquiries@hafod.org.uk neu ffonio 0800 024 8968.

Gwasanaeth Cymorth fel y bo angen Cwm Cynon wedi’i gynnal gan sefydliad Llamau: Cynonfloatingsupport@llamau.org.uk

This post is also available in: English